Cymorth gan Awdurdodau Lleol Cymru

Mae Rhaglen Newid Gydweithredol Cymru yn cynnig cymorth strategol a thechnegol i helpu awdurdodau lleol i ddatblygu a chreu cynlluniau manwl i gyflawni amcanion Strategaeth Gwastraff Cymru - Tuag at Ddyfodol Diwastraff.

Manylion am y rhaglen

Mae gan y broses o estyn cymorth i awdurdodau lleol bedwar prif gam:

  1. Pecyn cymorth cynllunio busnes
  2. Nodi'r bylchau a'r rhwystrau i gyrraedd targedau
  3. Cynllunio manwl a rhagamcanion costau
  4. Gweithredu'r cynllun 

Gall awdurdodau lleol ymgeisio am gyngor strategol, technegol a chyfathrebu ar amryw o bethau:

  • Adolygu gwasanaethau/gweithredoedd
  • Monitro cyfranogiad
  • Cynllunio llwybrau gweithredu
  • Cynllunio busnes
  • Cyngor a chymorth caffael
  • Rheoli gwasanaethau a newid
  • Galluogi gweithio mewn partneriaeth
  • Cymorth gyda marchnata defnyddiau eildro i gynyddu refeniw
  • Cynyddu sgiliau/gallu
  • Cyfathrebu a chodi ymwybyddiaeth